P-06-1365 Ail-agor llinellau rheilffordd i gysylltu gogledd a de Cymru – Gohebiaeth gan y Deisebydd, 03.06.34


Diolch yn fawr am rannu’r llythyr gyda mi sy’n egluro safbwynt y Llywodraeth.

 

Dwi’n hapus iawn i glywed bod astudaieth dichonoldeb yn cael ei wneud gan y Llywodraeth gyda cydweithrediad Sian Gwenllian. Beth yw amserlen yr astudiaeth, a phwy mae’r Llywodraeth yn ei ddefnyddio i’w gynnal?

 

Ond, er hyn, mae’n allweddol bod astudiaeth yn cael ei wneud o’r rheilffordd o Fangor i Afon wen a hefyd Aberystwyth i Gaerfyrddin yn ei gyfanrwydd, yn hytrach na gwneud dau astudaieth ar-wahan, er mwyn deall gwir effaith cael newid fel hyn ar Gymru. Yn ogystal a hynny mae angen i’r Llywodraeth ymrwymo i fynd ati i’w hailagor, ac i gyd-weithio gyda San Steffan i ddatganoli’r grymoedd dros seiliau’r rheilffyrdd i’r Senedd.

 

Atodaf wybodaeth ychwnegol gan y grwp ymgyrchu Trawslink Cymru, sy’n egluro’r pwysigrwydd i ailagor y rheilffyrdd hyn.